‘Does neb eisiau byw mewn parc thema’: a fydd Cymru yn cael Parc Cenedlaethol newydd o’r diwedd?
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo gwneud Bryniau Clwyd yn bedwerydd Parc Cenedlaethol y wlad – ond nid yw pawb yn hapus.
Wrth fynd ar hyd yr A5 yng ngogledd-ddwyrain Cymru, rydych yn trafaelu drwy dirwedd amrywiol a chymhleth.
Gwelir blociau o goetir conifferaidd a chollddail ar wasgar dros y rhostir grug a bryniau tonnog. Ar y copaon mae caerau Oes Haearn, ac yn y dyffrynnoedd ceir carpedi o borfeydd llawn blodau gwyllt a glaswelltiroedd ffermydd dwys. Bryniau Clwyd yw enw’r dirwedd hon.
Wedi ei dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn 1985 ac wedi ei ehangu i gynnwys Dyffryn Dyfrdwy yn 2011, mae’r ardal yn cael ei gwarchod oherwydd ei chyfoeth ecolegol a diwylliannol.
Nawr mae cynlluniau ar y gweill i godi lefel y gadwraeth yn uwch. Ym mis Ebrill y llynedd, datganodd Llafur Cymru eu bod yn bwriadu gwneud yr ardal yn bedwerydd Parc Cenedlaethol Cymru, ynghyd ag Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro.
“Mae ’na gymaint i fod yn falch amdano yng Nghymru” dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn ei araith i lansio maniffesto’r Blaid Lafur. “Mae ein tirwedd ni cystal ag unrhyw dirwedd yn y byd – yr unig beth sydd angen i ni ei wneud yw mynd allan ac edrych o’n cwmpas.”
Tirwedd gymhleth
Nid oes unrhyw amheuaeth bod AHNE Bryniau Clwyd yn dirwedd hardd. Wrth galon yr AHNE mae tri rhostir: Rhiwabon, Llandegla a Llandysilio-yn-Iâl. Maent i gyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Ond yn debyg i ddarnau helaeth o gefn gwlad Prydain mae eu cyflwr ecolegol yn gymhleth – ac yn peri gofid.
Mae dadansoddiad o’r paill sydd wedi ei gadw yn y mawn ym Mryniau Clwyd yn dangos tirwedd sydd wedi newid yn gyfan gwbl dros y 10,000 mlynedd ddiwethaf. Cyn i’r ffermwyr cyntaf gyrraedd, roedd y bryniau wedi eu gorchuddio gan goed bedw, pinwydd, a gwern, a oedd yn tyfu hyd yn oed ar y llethrau uchaf.
Yn raddol mi newidiodd y goedwig hon i fod yn dir glaswellt am fod ffermwyr cynhanesiol wedi ei ddefnyddio i dyfu cnydau a phori anifeiliaid, ac yna ymhen hir a hwyr newidiodd i fod yn rhostir grug sy’n bodoli heddiw. Mewn geiriau eraill, mae’r dirwedd hon wedi bod yn dir dof, nid yn dir naturiol, am flynyddoedd lawer.
Heddiw, mae Mynydd Rhiwabon yn cael ei adnabod fel “cadarnle grugieir Cymru”. Hwn yw’r unig rostir yng Nghymru â’i giper llawn-amser ei hun, a’i ecoleg wedi ei drin er mwyn darparu poblogaeth niferus o adar i gael eu saethu gan helwyr sy’n talu am y fraint.
Mae’r rheoli targededig hwn wedi bod yn hynod o ddadleuol. Gyda chymorth yr RSPB, mae poblogaethau’r grugiar ddu wedi bod yn gwella – ffaith sy’n cael ei weld gan rai fel tystiolaeth bod saethu trefnedig yn fuddiol i ecoleg y dirwedd. Ond mae erlid adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon yn dal i fod yn dân ar groen y diwydiant: yn 2018, diflannodd ddau foda tinwyn o dan amgylchiadau amheus ger Rhiwabon, a chadarnhawyd bod cigfran wedi ei gwenwyno yn fwriadol. Mae’r mudiad ymgyrchu Wild Moors wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd saethu grugieir unwaith ac am byth.
Tra bod ffermio wedi bod yn bwysig am ganrifoedd yn cynnal cymunedau gwledig, mae amryw o broblemau ecolegol ynghlwm wrtho. O dan yr ucheldiroedd grug lliw porffor gwelir caeau eang o rygwellt gwyrdd annaturiol, sylfaen y system o bori dwys sy’n wahanol iawn i arferion traddodiadol y cenedlaethau a fu – ac mae’r newid hwn wedi digwydd ar draul bioamrywiaeth rhywogaethau ar y bryniau.
Gwlad yr Addewid
Mewn tirwedd mor gymhleth a hanesyddol, beth yw rôl y dynodiad ‘Parc Cenedlaethol’ – a beth fyddai’r enw yn ychwanegu at y dynodiad presennol fel AHNE, os rywbeth?
Wrth ddatgan y cynlluniau ar gyfer yr ardal, addawodd Mark Drakeford y byddai “llawer o fuddion i gymunedau amaethyddol, i fioamrywiaeth ac i thwristiaeth gynaliadwy.” Ond mae barn llawr gwlad yn fwy rhanedig.
Pan rydym yn sôn am Barciau Cenedlaethol, yr hyn sy’n dod i’r meddwl yn gyntaf yn aml iawn yw ‘golwg’ y dirwedd: y golygfeydd mwyaf garw, dramatig, a thrawiadol yn Ynysoedd Prydain.
Mae gwarchod yr harddwch naturiol hwn yn rhan o bwrpas sylfaenol Parc Cenedlaethol, ond felly hefyd gwarchod a gwella bywyd gwyllt ac ecosystemau’r Parc – ynghyd â gwarchod ei dreftadaeth ddiwylliannol, a hyrwyddo “nodweddion arbennig” y Parc i’r cyhoedd. Yn anffodus, nid yw’r amcanion hyn wastad yn cyd-fynd â’i gilydd.
Mae’r tensiynau hyn wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar yn Ardal y Llynnoedd – lle mae harddwch y dirwedd yn ei hanfod yn amaethyddol, ac sy’n ganlyniad i waith cenedlaethau o ffermwyr sydd wedi cynnal tirwedd artiffisial heb goed am ganrifoedd er mwyn i’w hanifeiliaid cael pori. Yn Lloegr, daeth adolygiad annibynnol ar dirweddau a gomisiynwyd gan y Llywodraeth i’r casgliad bod angen i elfennau gwyllt tirweddau gwarchodedig gael eu gwarchod yn well.
Awgryma Gwawr Parry, ymgynghorydd NFU Cymru ar gyfer siroedd Clwyd a Threfaldwyn, y gallai amaethyddiaeth ddwys greu mwy o wrthdaro ym Mryniau Clwyd nag ym Mharciau Cenedlaethol presennol Cymru.
“Dych chi ddim wir yn gallu mynd â thractor i fyny’r Wyddfa,” meddai. I’r gwrthwyneb, mae gan Fryniau Clwyd lawer o gymoedd ffrwythlon lle mae cig eidion a llaeth yn cael eu cynhyrchu yn ddwys. “Y broblem fwyaf ym Mryniau Clwyd, mor bell a dwi’n gweld, yw bod llawer mwy o dir glaswellt sydd wedi ei wella. Dwi ddim yn gwybod sut mae hynny’n gweddu gyda Pharc Cenedlaethol.”
Cynhelir y broses dynodi ar hyn o bryd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, corff y llywodraeth ar gyfer yr amgylchedd. Yn ôl Keith Davies, sy’n arwain yr adolygiad, mae natur a diwylliant yn cyd-blethu heddiw yn fwy nag erioed o’r blaen.
“Nid yr elfennau prydferth ac esthetig yn unig sy’n diffinio harddwch naturiol i ni,” meddai. “Mae’n cynnwys bioamrywiaeth a bywyd gwyllt, treftadaeth ddiwylliannol ac yn y blaen. Felly, bydd y dystiolaeth yn cael ei chasglu ar draws ystod eang o faterion.”
Yn ôl Howard Sutcliffe, swyddog AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyda Chyngor Sir Ddinbych, mater o arian yw hi, mwy neu lai. Yr awdurdod lleol sy’n rheoli’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, sydd yn golygu bod yn rhaid i’r dirwedd gystadlu am gyllid yn erbyn gwasanaethau eraill, megis addysg a phriffyrdd. Mae awdurdod arbennig yn perthyn i’r Parciau Cenedlaethol, ar y llaw arall. “Rydych chi cystal â’r hyn y mae’r adnoddau yn caniatáu, dyna’i gyd,” meddai.
Fodd bynnag, rhaid gofyn o ble fyddai’r cyllid ychwanegol ar gyfer pedwerydd Parc Cenedlaethol yn dod: a fyddai rhagor o arian yn cael ei arllwys i mewn i’r dirwedd yn gyffredinol, neu a fyddai hyn yn lleihau’r adnoddau ar gyfer adferiad ecolegol mewn mannau eraill?
Mae Davies yn mynnu bod hwn yn fater i Lywodraeth Cymru ei ystyried yn y pen draw, ond ei fod yn “methu credu na fyddai adnoddau ychwanegol ar gael” er mwyn sefydlu a gwireddu Awdurdod Parc Cenedlaethol, a hefyd i sicrhau bod yr Awdurdod yn gallu rheoli’r ardal mewn modd positif.
Mae eraill yn cadw llygad ar y manteision economaidd i drigolion yr ardal a allai ddod yn sgil dynodiad Parc Cenedlaethol. Creda Ken Skates, AS Llafur dros etholaeth De Clwyd, y gallai fod o gymorth i ffermwyr i amrywiaethu eu busnesau a symud tuag at arferion mwy cynaliadwy.
“Rwy’n credu ei bod hi’n ffantastig bod mwy o bobl eisiau mynd allan i fyd natur ac yn dangos diddordeb mewn bioamrywiaeth,” meddai. “Yn sicr, mi allai statws Parc Cenedlaethol arwain at gynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr i Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Ond mae hynny’n dod â chyfleoedd yn ei sgil.”
Pryderon lleol
Ond pe byddai hi wedi bod yn hawdd dynodi Bryniau Clwyd yn Barc Cenedlaethol, byddai wedi ei wneud amser maith yn ôl.
Yn 2010, mi wnaeth yr AS Ceidwadol Darren Millar ymgyrchu yn aflwyddiannus i roi statws Parc Cenedlaethol i Fryniau Clwyd – ond mi gafodd ei gyhuddo o fod “wedi colli cysylltiad” â chymunedau lleol gan wleidydd o Blaid Cymru, Mabon ap Gwynfor (sydd bellach wedi ei ethol i’r Senedd).
“Nid yw cymunedau gwledig ym Mryniau Clwyd eisiau Parc Cenedlaethol am reswm da,” dywedodd Gwynfor ar y pryd. “Nid yn unig fyddai hyn yn amharu ar eu gallu i ddatblygu busnesau, ond mi fyddai hefyd yn cael ei redeg gan gynrychiolwyr heb unrhyw ddiddordeb yn na chonsýrn am yr ardal, gan fynd â chyfrifoldeb allan o ddwylo’r cymunedau sy’n byw yno.”
Mwy na ddegawd yn ddiweddarach, mae tirwedd Cymru – sut mae’n cael ei defnyddio a phwy sy’n berchen arni - yn dal i fod yn bwnc llosg, tra bod cynlluniau dad-ddofi tir a chyfrannu at niwtraleiddio carbon yn aml yn cael eu gweld fel bygythiad i’r fuchedd wledig, yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. Yn ôl arolwg yn 2011, roedd bron 40% poblogaeth gorllewin yr AHNE Bryniau Clwyd yn siarad yr iaith Gymraeg, i’w gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21% (nifer sydd wedi codi i 29% yn ôl yr arolwg diweddaraf). Er nad yw creu Parc Cenedlaethol yn gyfystyr â dad-ddofi tir o bell ffordd, mae’r pryderon hyn yn dal i fod yn ddifrifol.
Tra bod rhai yn gweld cyfleoedd economaidd yn y dynodiad arfaethedig, dim ond bygythiadau mae eraill yn eu gweld, bygythiadau i’r ffordd o fyw sydd wedi bodoli ar y bryniau hyn am genedlaethau dirifedi. “Baswn i’n bersonol ddim ei angen,” dywedodd un ffermwr defaid a pherchennog busnes lleol, a oedd am aros yn ddienw.
Mae byw a ffermio mewn AHNE yn ddigon cyfyng yn barod, meddai, ac mae’n poeni y gallai Parc Cenedlaethol greu haen ychwanegol o fiwrocratiaeth, yn ogystal â dwysáu’r galw am dai, gan wthio prisiau tai i fyny yn y broses. Mae’n ofni y gallai’r cynlluniau newid natur yr ardal er gwaeth: “Does neb eisiau byw mewn parc thema.”
Er nad oes barn swyddogol gan yr NFU am y dynodiad eto, mae Parry yn rhagweld y byddai’n arwain at newidiadau yn y dirwedd amaethyddol, wrth i’r pwysau gynyddu i adfer ffordd fwy traddodiadol o gadw anifeiliaid, ffordd sydd hefyd yn parchu bywyd gwyllt.
“Rwy’n credu mai dyna pam y byddai’r gymuned amaethyddol yn ddrwgdybus am y label Parc Cenedlaethol, oherwydd eu bod dan yr argraff fod hi’n system ddrutach, sy’n symud nôl i’r bridiau cynhenid sydd efallai’n medru ymdopi â’r dirwedd yn well na’r anifeiliaid cyfandirol sydd wedi dod i mewn,” meddai.
Er hynny, mae Parry’n awyddus i beidio â chanolbwyntio ar yr agweddau negyddol, gan ddweud y bydd hi’n gofyn i’r Llywodraeth am y cyfleoedd y gallai ddod i Fryniau Clwyd yn sgil dynodiad yn Barc Cenedlaethol. “Os ydy hwn yn golygu bod mwy o fusnesau â diddordeb mewn sefydlu eu hunain yn yr ardal, bydd rhagor o swyddi ar gael, ac mae hynny’n golygu y bydd mwy o bobl ifanc yn aros yma,” meddai.
Yn benodol, mae hi’n awyddus i weld buddsoddiad mewn adnoddau a fyddai’n helpu pobl gyffredin i ddeall a dehongli’r dirwedd amaethyddol. “Mi fyddai hi’n gyfle i gyrraedd rhagor o bobl Cymru er mwyn iddynt sylweddoli pa mor bwysig yw amaethyddiaeth i’r wlad hon.”
Llynedd, ceisiodd y gweinidog newid hinsawdd, Julie James, tawelu meddwl pobl leol na fyddai’r dynodiad yn Barc Cenedlaethol yn eu gosod o dan anfantais, gan ddweud y byddai’r llywodraeth yn cymryd camau i gynyddu’r stoc o dai cymdeithasol ac i fynd i’r afael â’r nifer cynyddol o dai haf.
Bydd ffermwyr, perchnogion busnesau a thrigolion i gyd yn cael cyfle i fynegi eu pryderon wrth i’r llywodraeth ddechrau’r broses hir o ymgynghori. Yn ôl Keith Davies o Gyfoeth Naturiol Cymru, bydd eu barn nhw yn help i ffurfio “y penderfyniad terfynol am statws yr ardal”– er na fydd y penderfyniad hwnnw’n cael ei wneud am ryw bedair blynedd.
Serch hynny, ers i Gymru gyhoeddi argyfwng natur a hinsawdd, mae adfer tirweddau yn uwch ar yr agenda nag erioed.
Mae’r cyhoedd yn dwlu ar Barciau Cenedlaethol Prydain, ond maent yn fwyfwy anfodlon â chyflwr dirywiedig tir y Parciau. Bydd y ddadl ynglŷn â Bryniau Clwyd yn rhoi prawf ar y cydbwysedd rhwng harddwch o waith dyn a ffyniant tir gwyllt – ac, yn y pen draw, yn gofyn y cwestiwn a fydd y cymunedau sy’n byw yno yn medru dod o hyd i le yn eu calonnau i’r ddau ohonynt?
Cyfieithwyd gan Katie Gramich
Subscribe to our newsletter
Members receive our premium weekly digest of nature news from across Britain.
Comments
Sign in or become a Inkcap Journal member to join the conversation.
Just enter your email below to get a log in link.